Background Image
High Street, Prestatyn LL19 9BN, United Kingdom
Specification

Fe arweinodd y twf cyflym ym Mhrestatyn i greadigaeth plwyf newydd – ac eglwys blwyf ysblennydd i gyd-fynd a hynny. Er tydi Eglwys Crist erioed wedi bod mor fawreddog a hyn. Adeiladwyd yr eglwys ym 1863, ac ychwanegwyd ei eil ddeheuol ym 1905 cyn rhoi estyniad ar yr eil ogleddol ym 1910. Cwblhawyd y trawsnewid gyda’r gangell newydd a Chapel y Merched ym 1926. Y tu allan mae beddi chwe o fechgyn cor rhwng 6 ac 11 oed a foddodd mewn damwain nofio cyn ymarfer cor ar 17 Gorffennaf 1868 . Edrychwch am rhes o groesau cerrig bychain y mhen pellaf y wal ddeheuol. Mae cofeb gwydr lliw i ddau o’r bechgyn, y brodyr Samuel a George Gilderoy, uwchben yr allor yng Nghapel y Merched.

High Street, Prestatyn LL19 9BN, United Kingdom

Cael Cyfarwyddiadau

Password reset link will be sent to your email